Pobl ifanc
Os oes rhywun wedi cysylltu â chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod, torrwch yr holl gyswllt, peidiwch â derbyn na symud unrhyw arian, a gofynnwch am gyngor gan rywun rydych chi’n ymddiried ynddo. Mae troseddwyr yn gweithredu’n dawel – drwy siarad amdano, rydych chi’n amddiffyn pobl eraill.
Gallwch roi gwybod i’r Heddlu lleol am fulod arian ar 101 neu 999 mewn argyfwng. Os yw’n well gennych chi beidio â rhoi eich manylion i’r heddlu,gallwch gysylltu â’r elusen annibynnol Crimestoppers yn gwbl ddienw ar-lein neu drwy ffonio 0800 555 111. Os ydych chi’n ei weld ar-lein, rhowch wybod i’r cwmnïau cyfryngau cymdeithasol i’w helpu i gael gwared arno a diogelu eu defnyddwyr eu hunain.
Er y gallai rhywun gynnig ffordd hawdd o wneud arian, gallech gael eich hun mewn perygl wrth ymwneud â throseddwyr peryglus a soffistigedig, yn ogystal â bod yn rhan o droseddau cyfundrefnol. Mae’n well canolbwyntio ar feithrin eich dealltwriaeth ariannol a defnyddio hynny i ddiogelu eich dyfodol chi a dyfodol eich teulu.
Mae llawer o ffyrdd o wneud hyn, ond mae’r rhan fwyaf o fanciau’n cynnig adnoddau am ddim ar-lein i helpu – fel Money Sense gan Natwest.
Hysbyseb We Fight Fraud
Rhieni a Gofalwyr
Mae’r rhan fwyaf o’r mulod sy’n galluogi’r troseddau hyn yn ifanc. Mae tua 6 o bob 10 ‘mul’ o dan 30 oed. Mae llawer o droseddwyr yn targedu eu gwaith o recriwtio mulod arian ar brifysgolion neu’r chweched dosbarth, pan fydd pobl ifanc angen eu harian eu hunain fwyaf.
Mae’n bwysig bod rhieni a gofalwyr yn helpu pobl ifanc i ddeall peryglon a chanlyniadau troseddau ariannol. Mae angen hyn ar bobl ifanc i helpu i feithrin eu gwytnwch ariannol, a helpu i’w diogelu rhag twyllwyr a sgamwyr sy’n gweithredu ar-lein. Ar gyfer pobl ifanc yn eu harddegau, yr oedran gorau i ddechrau’r sgyrsiau hyn yw 11-16 oed.
Os ydych chi’n poeni bod rhywun yn camfanteisio’n droseddol ar eich plentyn, cysylltwch â 999 mewn argyfwng neu ffoniwch yr heddlu ar 101.
Mae’r rhan fwyaf o fulod arian yn cael eu recriwtio rhwng 17 a 24 oed. Mae’n bosib y bydd yr unigolyn ifanc wedi cael nwyddau moethus na allant esbonio sut maent wedi eu cael. Mae’n bosib y bydd tystiolaeth eu bod nhw’n agor cyfrifon banc newydd neu’n defnyddio cyfnewidfeydd crypto-asedau, ac na fyddant yn gallu esbonio tarddiad yr arian yn ddigonol.
O gael eu herio, mae’n bosib y byddant yn dweud eu bod yn gadael i rywun arall ddefnyddio eu cyfrif i symud arian. Ond os ydynt yn cymryd cyfran o'r arian eu hunain, mewn gwirionedd maent yn helpu troseddwyr yn erbyn pobl agored i niwed, ac ar yr un pryd yn cael eu hecsbloetio eu hunain.
Gweithwyr Addysg Proffesiynol
Mae pobl ifanc yn agored i gael eu targedu fel mulod arian oherwydd y pwysau ar y cyfryngau cymdeithasol a thechnegau trin pobl sy’n tynnu sylw at faglau ‘cyfoeth cyflym’. Fodd bynnag, yn aml nid yw pobl ifanc yn ymwybodol o ganlyniadau cael eu recriwtio fel mul arian, a bydd trafodaethau mewn ystafelloedd dosbarth yn helpu i atal pobl ifanc rhag cyflawni’r trosedd hwn.
I fyfyrwyr prifysgol, mae ‘We Fight Fraud’ yn gwmni atal twyll sy'n defnyddio’r dull arloesol o brofiad uniongyrchol cyn-droseddwyr fel sail i’w waith. Gallant gynnig “Crooks on Campus” i brifysgolion i helpu i rybuddio eu myfyrwyr am recriwtwyr mulod arian y mae’n hysbys eu bod yn targedu poblogaethau myfyrwyr, yn enwedig ymhlith myfyrwyr rhyngwladol.
Os ydych chi’n pryderu, siaradwch â’ch myfyrwyr am bwysigrwydd bod yn onest, cyfreithlondeb a chanlyniadau cymryd rhan. Esboniwch y goblygiadau ariannol, effaith cael sgôr credyd gwael a cholli mynediad at gyfrif banc os ydych chi eisiau cael benthyciadau myfyrwyr yn y dyfodol.
Mae Cifas yn sefydliad nid-er-elw sy’n gweithio i leihau ac atal twyll a throseddau ariannol. Maent wedi datblygu cynlluniau gwersi gwrth-dwyll achrededig y Gymdeithas ABGI ar gyfer Cyfnodau Allweddol 3 a 4 i archwilio beth yw mulod arian, gwneud penderfyniadau a rhoi gwybod am bryderon.
Mae amrywiaeth o adnoddau addysgu hefyd yn cael eu cynhyrchu gan fanciau ar gyfer pob grŵp oedran - er enghraifft, adnodd Sgiliau Bywyd Barclays ar gyfer pobl ifanc rhwng 16 a 19 oed, sy’n rhoi sylw i fulod arian yn ogystal â risgiau twyll eraill: Cynllun gwers ar dwyll ariannol a sgamiau | Barclays LifeSkills